Meddylfryd o dwf.
Rydym wedi ymchwilio i mewn i theori Carol Dweck ar ‘Meddylfryd o dwf” ac wedi gwreiddio ei syniadau i’n ethos ysgol. Dyma ychydig o eiriau sy’n esbonio beth yw’r theori meddylfryd o dwf, a sut y gallwch chi ddatblygu eich ymennydd.
“Un o’r pethau mwyaf diddorol sydd wedi digwydd ym myd Seicoleg dros y blynyddoedd diwethaf yw’r ffaith mai’r ffordd rydym yn canmol ein plant yn y gwlad yma nid yn unig yn aneffeithiol, ond mewn sawl achlysur yn cael effaith negyddol. Mae yna syniad syml, sef bod dau fath o feddylfryd yn bodoli. Fe allwch feddwl am nodweddion eich gallu fel FIXED!!!!, neu fe allwch feddwl bod modd tyfu’r ymennydd a datblygu’r nodweddion sydd eisioes gennych. Pan rydych yn canmol plentyn drwy ddweud “Ti mor glyfar” rydych, hebl sylwi yn datblygu ymennydd FIXED. Dyma natur y plentyn – y gallu.
Ar y llaw arall, pe bai chi’n dweud “Wow, ti wedi gweithio’n galed iawn ar y gwaith cartref Mathemateg nes i chdi gael o’n gywir.” Rydych yn datblygu ymennydd sy”n tyfu. Rydych yn dysgu’r plentyn os ydyn nhw’n parhau i drio a gweithio’n galed mi ddaw tyfiant a gwelliant.
Y broblem hefo ymennydd FIXED ydi, pan mae petha’n mynd yn anodd, mae’r plant sydd wedi bod yn perfformio’n dda yn mynd yn anniogel “Dydw i ddim yn gwybod yr ateb felly dwi’n fethiant” Mae’n eu harwain i osgoi heriau.
Mae ein addysgu dydd i ddydd yn cynnwys strategaethau sy’n hybu:
- Canolbwyntio
- Dychymyg
- Gwaith caled
- Gwella eich hun
- Gwthio eich hun
- Trio pethau newydd
- Deall eich gilydd
- Peidio rhoi ffidil yn y to
Dyma ychydig o glipiau fideo sy’n esbonio theori’r Meddylfryd o dwf.